2026 Award Categories / Categorïau Gwobrau 2026

APPRENTICE of the Year
Prentis Bwyd a Diod Cymru y Flwyddyn
  • The Wales F&D Apprentice award is open to individuals who are currently on an apprentice scheme in F&D production. The judges are looking for individuals who demonstrate ambition, energy, skill and vision, as well as tangible business success. The nomination can be made by a line manager, HR representative or college tutor.
  • Mae gwobr Prentis y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru ar agor i unigolion sydd ar hyn o bryd ar gynllun prentis mewn cynhyrchu bwyd a diod. Mae'r beirniaid yn chwilio am unigolion sy'n dangos uchelgais, egni, sgìl a gweledigaeth, yn ogystal â llwyddiant pendant mewn busnes. Gall rheolwr llinell, cynrychiolydd Adnoddau Dynol neu diwtor coleg wneud yr enwebiad.
ARTISAN BUSINESS of the Year
Busnes Crefft Bwyd a Diod Cymru y Flwyddyn
  • The Welsh Artisan Business category recognises a Welsh artisan food or drink producer who has the wow factor.
  • The judges are looking at the following areas; Artisanal quality of product, skills and methods together with provenance of ingredients. How you tell your story through branding and presentation. Originality of product, innovation and sustainability. How much your product stands out from the competition.
  • Mae categori Busnes Artisan Cymru yn cydnabod cynhyrchydd bwyd a diod artisan o Gymru sydd â'r WAW ffactor. Mae'r beirniaid yn ystyried y meysydd canlynol; Ansawdd artisanal y cynnyrch, sgiliau a dulliau ynghyd â tharddiad y cynhwysion, Sut rydych yn adrodd eich hanes drwy frandio a chyflwyniad, Gwreiddioldeb y cynnyrch ac arloesi. Cynaliadwyedd. I ba raddau y mae eich cynnyrch yn sefyll allan o'r gystadleuaeth.
BUSINESS RESILIENCE AWARD
Gwobr Gwydnwch Busnes
  • This award recognises those food and drink producers/manufacturers, which react quickly to the changing global and financial situations to survive and indeed thrive.
  • The judges are looking for; Evidence of how their business model has been adapted to achieve results, Evidence of a flexible business model already in place which enabled them to absorb external impacts to the food and drink industry, Accessed funding streams and used these in an inventive way, Strongly motivated and empowered staff, Embraced technology in an innovative way.
  • Mae'r wobr hon yn cydnabod y cynhyrchwyr/gwneuthurwyr bwyd a diod hynny sy'n ymateb yn gyflym i sefyllfaoedd byd-eang ac ariannol newidiol i oroesi a hyd yn oed fynnu. Mae'r beirniaid yn chwilio am y canlynol; Tystiolaeth o sut mae eu model busnes wedi cael ei addasu i gyflawni canlyniadau, Tystiolaeth o fodel busnes hyblyg sydd eisoes ar waith a wnaeth eu galluogi i amsugno effeithiau allanol i'r diwydiant bwyd a diod, Unigolion sydd wedi cael mynediad at ffrydiau ariannu a'u defnyddio mewn modd dyfeisgar, Staff llawn cymhelliant sydd wedi'u grymuso, Unigolion sydd wedi croesawu technoleg mewn modd arloesol.
DRINKS PRODUCER of the year
Cynhyrchydd Diodydd Cymru y flwyddyn
  • Are you the Drinks Producer of the year in Wales with over 5 employees? This award recognises a Welsh drinks producer that has consistently made a real impact in the Welsh drinks sector.
  • The judges are looking in the following areas; Quality of product and provenance of ingredients. How you tell your story through branding and presentation. Originality of product, innovation and sustainability. How much your product stands out from the competition.
  • Ai chi yw Cynhyrchydd Diodydd y Flwyddyn yng Nghymru â mwy na 5 cyflogai? Mae'r wobr hon yn cydnabod cynhyrchydd diodydd o Gymru sydd yn gyson wedi cael effaith wirioneddol ar y sector diodydd yng Nghymru. Mae'r beirniaid yn ystyried y meysydd canlynol; Ansawdd y cynnyrch a tharddiad y cynhwysion, Sut rydych yn adrodd eich hanes drwy frandio a chyflwyniad, Gwreiddioldeb y cynnyrch ac arloesi, Cynaliadwyedd. I ba raddau y mae eich cynnyrch yn sefyll allan o'r gystadleuaeth.
ENTREPRENEUR of the Year
Entrepreneur y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru
  • Entries and nominations are accepted for Entrepreneurs leading the way in Welsh food and Drink sector. The Wales F&D Entrepreneur award will recognise those individuals who have shown the desire to succeed with their own ideas and have had the ambition to turn those ideas into a successful business.
  • The judges will be looking for an outstanding individual who can best demonstrate exceptional vision and leadership and personality in the development of their own business.
  • Derbynnir ceisiadau ac enwebiadau ar gyfer Entrepreneuriaid sy'n arwain y ffordd yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Bydd gwobr Entrepreneur Bwyd a Diod Cymru yn cydnabod yr unigolion hynny sydd wedi dangos ysfa i lwyddo â'u syniadau eu hunain ac uchelgais i droi'r syniadau hynny'n fusnes llwyddiannus. Bydd y beirniaid yn chwilio am unigolyn eithriadol a all ddangos gweledigaeth, arweiniad a phersonoliaeth rhagorol wrth ddatblygu ei fusnes ei hun.
EXPORTER of the Year
Allforiwr y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru
  • The Wales F&D Exporter of the year award is open to any Welsh food or drink producer/ manufacturer that is trading overseas.
  • The judges are looking for evidence of a detailed internationalisation strategy, growth in overseas markets and a commitment to improving export performance.
  • Mae gwobr Allforiwr Bwyd a Diod y Flwyddyn Cymru ar agor i unrhyw gynhyrchydd/gwneuthurwr bwyd a diod o Gymru sy'n masnachu dramor. Mae'r beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o strategaeth ryngwladoli fanwl, twf mewn marchnadoedd dramor ac ymrwymiad i wella perfformiad allforio.
FARM TO FORK PRODUCER of the Year
Cynhyrchydd y Flwyddyn o'r Giât i’r Plât
  • Have you developed a food or drink product from field/farm to fork?
  • This category will showcase what farmers and manufacturers with strong Welsh farm supplier partnerships are doing to grow and diversify the agriculture sector in Wales. You will need to be able to describe your farm to fork approach, and judges will be keen to understand your plans for growth, the sustainability of the product and commercial impact on the business.
  • Ydych chi wedi datblygu cynnyrch bwyd neu ddiod o'r fferm i'r fforc? Bydd y categori hwn yn arddangos yr hyn y mae ffermwyr a gwneuthurwyr â phartneriaethau cryf â chyflenwyr fferm o Gymru yn ei wneud i dyfu ac arallgyfeirio'r sector amaethyddol yng Nghymru. Bydd angen i chi allu disgrifio eich dull o'r fferm i'r fforc, a bydd y beirniaid yn awyddus i ddeall eich cynlluniau i dyfu, cynaliadwyedd y cynnyrch a'r effaith fasnachol ar y busnes.
FOOD PRODUCER of the Year
Cynhyrchydd Bwyd Cymru y Flwyddyn
  • Are you the Food Producer of the year in Wales? This award recognises a Welsh Food producer that has consistently made a real impact in the Welsh food sector at scale.
  • The judges are looking at the following areas; Quality of product and provenance of ingredients, How you tell your story through branding and presentation, Originality of product and innovation, Sustainability. How much your product stands out from the competition.
  • Ai chi yw Cynhyrchydd Bwyd y flwyddyn yng Nghymru? Mae'r wobr hon yn cydnabod cynhyrchydd Bwyd o Gymru sydd wedi cael effaith wirioneddol yn gyson ar y sector bwyd yng Nghymru ar raddfa. Mae'r beirniaid yn ystyried y meysydd canlynol; Ansawdd y cynnyrch a tharddiad y cynhwysion, Sut rydych yn adrodd eich hanes drwy frandio a chyflwyniad, Gwreiddioldeb y cynnyrch ac arloesi, Cynaliadwyedd. I ba raddau y mae eich cynnyrch yn sefyll allan o'r gystadleuaeth.
INNOVATION AWARD
Gwobr Arloesedd Bwyd a Diod Cymru
  • The Wales F&D Innovation Award recognises those food/ drink producers or manufacturers that have achieved growth through innovation driven entrepreneurship.
  • For this category, innovation is broadly defined and could include technology, product or process innovation.
  • Mae Gwobr Arloesedd Bwyd a Diod Cymru yn cydnabod y cynhyrchwyr neu wneuthurwyr bwyd/diod hynny y mae eu busnesau wedi tyfu o ganlyniad i entrepreneuriaeth a ysgogir gan arloesedd. Ar gyfer y categori hwn, diffinnir arloesedd yn eang a gallai gynnwys arloesedd â thechnoleg, y cynnyrch neu'r broses.
LOCAL COMMUNITY AWARD
Gwobr Gymunedol Bwyd a Diod Cymru
  • The Wales F&D local Community award recognises those Welsh businesses that have made a real difference to their local community.
  • The judges are looking for examples of making a difference; by volunteering, by overcoming adversity, by raising awareness of a particular issue, or by organising an event that has improved the quality of life for the residents in the community.
  • Mae Gwobr Gymunedol Leol Bwyd a Diod Cymru yn cydnabod y busnesau Cymreig hynny sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymuned leol. Mae'r beirniaid yn chwilio am enghreifftiau o wneud gwahaniaeth; drwy wirfoddoli, drwy oresgyn adfyd, drwy godi ymwybyddiaeth am fater penodol, neu drwy drefnu digwyddiad cymunedol sydd wedi gwella ansawdd bywyd preswylwyr y gymuned.
RISING STAR of the year
Seren y Dyfodol Bwyd a Diod Cymru y Flwyddyn
  • The Wales F&D Rising Star of the Year award is made to individuals in their first 5 years in the Food and drink industry.
  • The judges are looking for individuals within food/ drink production or manufacturing who demonstrate ambition, energy, skill and vision, as well as tangible business success.
  • Mae Gwobr Seren y Dyfodol Bwyd a Diod Cymru ar gyfer unigolion sydd yn eu 5 mlynedd gyntaf yn y diwydiant Bwyd a Diod. Mae'r beirniaid yn chwilio am unigolion ym maes cynhyrchu bwyd/diod sy'n dangos uchelgais, egni, sgìl a gweledigaeth, yn ogystal â llwyddiant pendant mewn busnes.
SCALE-UP COMPANY of the Year
Cwmni Cynydd Bwyd y Flwyddyn
  • The Wales F&D Scale up Company award recognises those Welsh businesses that can demonstrate high rates of growth and industry-leading innovations, while making a significant impact in the food and drink sector.
  • The judges are looking for food and drink businesses that have achieved growth and strong financial performance through innovation, exceptional customer experience and are focused on future business success.
  • Mae Gwobr Cwmni sy'n Tyfu Bwyd a Diod Cymru yn cydnabod y busnesau Cymreig hynny a all ddangos cyfraddau uchel o dyfu ac arloesi blaengar yn y diwydiant, wrth gael effaith sylweddol yn y sector bwyd a diod. Mae'r beirniaid yn chwilio am fusnesau bwyd a diod sydd wedi llwyddo i dyfu a pherfformio'n gryf yn ariannol drwy arloesi, darparu profiad rhagorol i gwsmeriaid a chanolbwyntio ar lwyddiant busnes yn y dyfodol.
SMALL DRINKS PRODUCER (fewer than 5 employees) of the Year
Cynhyrchydd Diodydd Y Flwyddyn (cwmnïau gyda llai na 5 gweithiwr)
  • Are you the Drinks Producer of the year in Wales with 5 or less employees? This award recognises a Welsh drinks producer that has consistently made a real impact in the Welsh drinks sector.
  • The judges are looking in the following areas; Quality of product and provenance of ingredients, How you tell your story through branding and presentation, Originality of product and innovation, Sustainability. How much your product stands out from the competition.
  • Ai chi yw Cynhyrchydd Diodydd Bach y Flwyddyn yng Nghymru â llai na 5 cyflogai? Mae'r wobr hon yn cydnabod cynhyrchydd diodydd o Gymru sydd yn gyson wedi cael effaith wirioneddol ar y sector diodydd yng Nghymru. Mae'r beirniaid yn ystyried y meysydd canlynol; Ansawdd y cynnyrch a tharddiad y cynhwysion, Sut rydych yn adrodd eich hanes drwy frandio a chyflwyniad, Gwreiddioldeb y cynnyrch ac arloesi, Cynaliadwyedd. I ba raddau y mae eich cynnyrch yn sefyll allan o'r gystadleuaeth.
START-UP COMPANY of the Year
BUSNES NEWYDD y flwyddyn
  • The Wales F&D start-up award aims to celebrate and support the food and drink industry’s newest producers/manufacturers. Entrants to this award must be independent and have been trading for up-to a maximum period of three years on 16th April 2026..
  • The judges will be looking for real passion, a strong plan, an innovative product or service and exceptional forecasts for further growth.
  • Nod gwobr Busnes Newydd Bwyd a Diod Cymru yw dathlu a chefnogi cynhyrchwyr/gwneuthurwyr mwyaf newydd y diwydiant bwyd a diod. Rhaid i'r ymgeiswyr ar gyfer y wobr hon fod yn annibynnol a rhaid iddynt fod wedi masnachu am gyfnod o dair blynedd ar y mwyaf ar 16 Ebrill 2026. Bydd y beirniaid yn chwilio am angerdd gwirioneddol, cynllun cadarn, cynnyrch neu wasanaeth arloesol a rhagolygon ardderchog o ran tyfu ymhellach.
SUSTAINABLE VALUES AWARD
Gwobr Gwerthoedd Cynaliadwy
  • The Wales F&D Sustainable Values award will recognise and celebrate industry change-makers and brands that focus on eco-friendly food and drink production.
  • The producers/manufacturers will be judged on their sustainable approach to the supply chain and look for ways to demonstrate an environmental and socially aware attitude.
  • Bydd gwobr Gwerthodd Cynaliadwy Bwyd a Diod Cymru yn cydnabod ac yn dathlu'r rheini sy'n gwneud newidiadau yn y diwydiant a brandiau sy'n canolbwyntio ar gynhyrchu bwyd a diod mewn modd ecogyfeillgar. Bydd y cynhyrchwyr/gwneuthurwyr yn cael eu beirniadu ar eu dull cynaliadwy i'r gadwyn gyflenwi ac ar edrych am ffyrdd o ddangos agwedd sy'n ystyriol o'r amgylchedd a materion cymdeithasol.
WALES FOOD & DRINK CHAMPION of the Year
Pencampwr Bwyd a Diod Cymru y Flwyddyn
  • This category is open to individuals, organisations or businesses who proudly and passionately 'fly the flag' for the quality of Welsh products and producers as well as their communities.
  • Judges will want to hear how you encourage the wider public to love Welsh food and drink and to understand its origins. This category is not aimed at producers themselves but allied sectors.
  • A ydych wir yn hyrwyddo bwyd a diod o Gymru? A yw cefnogi cyflenwyr a chynhyrchwyr o Gymru wrth wraidd popeth rydych yn ei wneud? Bydd rhaid yn i chi ddisgrifio sut rydych yn hyrwyddo ansawdd cynhyrchion a chynhyrchwyr o Gymru yn ogystal â'u cymunedau yn angerddol. Bydd y beirniaid am glywed sut rydych yn annog y cyhoedd ehangach i garu bwyd a diod o Gymru a deall eu gwreiddiau.

2026 Awards Sponsors